Ardaloedd Cadwraeth yng Ngheredigion
Mae gan Geredigion gyfanswm o 13 o ardaloedd cadwraeth yn y sir. Sy’n cwmpasu sawl ffurf o dirweddau hanesyddol, parciau a gerddi, patrymau caeau a thramwyfeydd nodedig i aneddiadau hanesyddol, adeiladau traddodiadol, henebion a safleoedd archeolegol claddedig. Mae’n ein hatgoffa’n gyson o fenter ddynol y gorffennol, gan ddarparu ffynhonnell o fwynhad a dysg, gan gyfuno’r amgylchedd naturiol a chynefinoedd i roi ymdeimlad unigryw o le i ni.
Mae Ardaloedd Cadwraeth wedi’u dynodi i gadw a gwella cymeriad arbennig ardaloedd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol. Mae gan y cyngor ddyletswydd i ystyried dynodi ardaloedd o’r fath o dan ‘Adran 69 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990’. Dewisir yr ardaloedd cadwraeth hyn yn ôl ansawdd yr ardal gyfan, gan gynnwys cyfraniad unigolion allweddol neu grwpiau o adeiladau, coed, mannau agored a strydlun.
Mae Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion yn gofnodion pwysig o’n trefi a’n pentrefi hanesyddol, gan ddarparu atgofion dyddiol o’n treftadaeth ar y cyd, i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion
- Aberaeron – Dyddiad ychwanegu, 15 Medi 1969
- Aberystwyth – Dyddiad ychwanegu, 6 Mawrth 1981
- Adpar – Dyddiad ychwanegu, 15 Gorffennaf 1992
- Aberteifi – Dyddiad ychwanegu, 15 Medi 1989
- Cenarth – Dyddiad ychwanegu, 15 Gorffennaf 1992
- Llanbedr Pont Steffan – Dyddiad ychwanegu, 11 Mawrth 1987
- Llanbadarn Fawr – Dyddiad ychwanegu, 5 Ionawr 1987
- Llandysul – Dyddiad ychwanegu, 14 Medi 1988
- Llanddewi-Brefi – Dyddiad ychwanegu, 25 Medi 2007
- Llansanffraid – Dyddiad ychwanegu, 17 Tachwedd 1993
- Llanrhystud – Dyddiad ychwanegu, 14 Chwefror 1992
- Cei Newydd – Dyddiad ychwanegu, 15 Medi 1969
- Tregaron – Dyddiad ychwanegu, 5 Ebrill 1989