Parciau a Gerddi yng Ngheredigion

Mae gan Geredigion 11 o Barciau a Gerddi cofrestredig, 4 tirwedd gofrestredig o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac Arbennig: (Ucheldir Ceredigion, Dyffryn Teifi Isaf, Drefach-Felindre a Dyffryn Tywi).

Ar hyn o bryd mae tirweddau diwylliannol fel Parciau a Gerddi yn dod o dan gyfrifoldeb statudol, sy’n gorwedd gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac a weinyddir gan Cadw, ei wasanaeth amgylchedd hanesyddol. Mae’r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) yn cynnal Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru ac mae Ymddiriedolaethau Archeolegol Dyfed yn cynnal y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol rhanbarthol ac yn cynghori ar reoli treftadaeth a rheoli datblygu. Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru (WHGT) yw’r unig sefydliad amwynder yng Nghymru sy’n ymwneud yn benodol â gwarchod a chadw parciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru.

Weithiau mae cestyll, neu strwythurau hynafol, fel Amgueddfa Ceredigion, yn cael eu dosbarthu fel Adeiladau Rhestredig ac yn cael eu rhoi ar restr statudol a gynhelir gan Cadw yng Nghymru. Mae’r Comisiwn Brenhinol Henebion Chymru yn cadw gwybodaeth am adeiladau rhestredig a safleoedd a thirweddau hanesyddol Ceredigion.

Gweler:
Mynegai | Trefi yng Ngheredigion | Pentrefi yng Ngheredigion | Safleoedd Hanesyddol yng Ngheredigion | Adeiladau Rhestredig Ceredigion | Henebion Rhestredig Ceredigion | Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion | Parciau a Gerddi Ceredigion