Am Gymdeithas Hanes Ceredigion

Prif nod y Gymdeithas yw diogelu, cofnodi a hyrwyddo’r gwaith o astudio archaeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion.

1. Amcanion y Cymdeithasau

Glynwyd wrth y nod hwnnw ers sefydliad y Gymdeithas yn 1909. Y mae’n cyflawni hyn drwy gyhoeddiad cylchgrawn, cyfres dair-cyfrol ar Hanes y Sir ac drwy cynnal hefyd rhaglen o ddarlithiau ac ymweliadau â mannau hanesyddol.

2. Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi

O 1909-1938 cyhoeddodd y Gymdeithas y Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi a Chofnod Archeolegol mewn 14 cyfrol.

Fe gafodd ei atal dros dro yn 1940 ond ailddechreuodd ei weithgareddau yn 1947.

O 1950 cyhoeddodd 20 cyfrol arall i 1971.

Mynegai i Ceredigion Journal, Cyfrolau I-X, 1950-84.

3. Cymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion

O 1972-2001 cyhoeddodd y Gymdeithas Journal of Society Antiquarian Ceredigion mewn 21 cyfrol.

4. Cymdeithas Hanes Ceredigion

O 2002 ymlaen, mae’r Gymdeithas yn cyhoeddi Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Ceredigion, mae’r Cylchgronau hyn yn rhad ac am ddim i aelodau’r Gymdeithas.

Newidiodd enw’r Gymdeithas i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002 gan Gymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi.

5. Cynigion Papurau

Dylid anfon pob cais am gael traddodi darlith yng nghyfarfodydd y Gymdeithas at yr Ysgrifennydd Mygedol. Dylid anfon deunydd i’w gyhoeddi, ynghyd a llyfrau i’w hadolygu, at y Golygydd Mygedol.

6. Hanes y Gymdeithas

Y mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi’i ddathlu ei chanmlwyddiant yn 2009. Ar y cychwyn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi oedd ei henw. Fe’i sefydlwyd yn ystod haf 1909 gan grŵp o hynafiaethwyr a gwladgarwyr lleol brwdfrydig. Hyd hynny, prin iawn fu’r ymgais i ymchwilio’n wyddonol i hanes y sir a’i ddehongli’n gywir, ac yr oedd y cyhoedd yn pryderu ynghylch y difrod a wneid i weithiau hynafiaethol, yn enwedig ar safleoedd eiconig fel Abaty Ystrad-fflur. Mor gynnar ag Ebrill 1901 bu’r Parchedig George Eyre Evans, gweinidog gyda’r Undodiaid yn Aberystwyth, yn trafod (wrth ddringo i gopa Pen Dinas) gyda Llewellyn John Montford Bebb. Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, y dymunoldeb o sefydlu ‘Cymdeithas Hanes Ceredigion’. Ar 20 Mai yn yr un flwyddyn cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus ‘cwblgofiadwy’ yn Ystrad-fflur – abaty y cyfeiriai Evans ati fel ‘Westminster Cymru’ – a bu’r achlysur yn ysbardun iddo ddyblu ei ymdrechion i sefydlu cymdeithas hanes yn y sir. Gŵr hynaws, gwybodus ac egnïol oedd Evans ac, wrth gerdded ar hyd priffyrdd a mân ffyrdd y sir, byddai’n gwneud rhwbiadau o arysgrifau, yn archwilio bedyddfeini a chorffddelwau, ac yn holi pobl leol yn fanwl. Yn ei lyfr Cardiganshire: A Personal Survey of Some of its Antiquities, Chapels, Churches, Fonts, Plate, and Registers (1903), gwaith a gefnogwyd gan 320 odanysgrifwyr, gofynnodd Evans y cwestiwn rhethregol: ‘Paham na ddylai Ceredigion fod y sir gyntaf i feddu ar ei Chymdeithas Hanes?’

Er ei fod yn Undodwr, cyd-dynnai George Eyre Evans yn dda ag offeiriaid Anglicanaidd a gweinidogion Ymneilltuol eraill. Ffurfiodd berthynas agos â’r Parchedig Athro E Tyrrell-Green, Athro Hebraeg a Diwinyddiaeth yn Ngholeg Llanbedr Pont Steffan ac arbenigwr ar bensaernïaeth yr oesoedd canol, a hefyd â’r Parchedig J Francis Lloyd, ficer Llanilar. Anfonwyd llythyrau at gefnogwyr tebygol i’r prosiect sirol a chynhaliwyd dau gyfarfod awyr-agored llwyddiannus iawn yn Ystrad-fflur ym Mehefin a Gorffennaf 1909. Yn ystod yr ail o’r rhain rhoes George Eyre Evans gynnig gerbron i sefydlu Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi. Etholwyd Syr Edward Webley-Parry-Pryse o Gogerddan yn Llywydd, Tyrrell-Green yn Gadeirydd ar Bwyllgor Gwaith, a oedd yn cynnwys ugain aelod, ac yn Olygydd cyntaf ar Drafodion y Gymdeithas, ac etholwyd y Parchedig J Francis Lloyd yn Ysgrifennydd Mygedol cyntaf y Gymdeithas.

Prif nod y Gymdeithas oedd diogelu, cofnodi a hyrwyddo’r gwaith o astudio archaeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Glynwyd wrth y nod hwnnw hyd heddiw, ond yn 2002 newidiwyd enw’r Gymdeithas i Cymdeithas Hanes Ceredigion. Dros y ganrif a aeth heibio y mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi pymtheg cyfrol o’r Trafodion, dwy gyfrol o’i chyfres dair-cyfrol arfaethedig ar Hanes y Sir, a chynnal hefyd raglen flynyddol reolaidd o ddarlithiau ac ymweliadau â mannau hanesyddol. Y mae wedi gweithio’n agos ag Amgueddfa Ceredigion, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Wrth ddathlu camp ei sylfaenwyr, y mae’r Gymdeithas yn edrych ymlaen at gyflawni ei chyfrifoldebau yn ystod y can mlynedd nesaf.

7. Darllen Pellach:

8. Beth sydd ar y wefan?

Bwriad y wefan yw darparu gwybodaeth am y Gymdeithas i aelodau a darpar aelodau am y Gymdeithas a’i gyhoeddiadau a gweithgareddau.

Mae’r safle hefyd yn cynnwys manylion Adroddiadau a Chyfrifon Blynyddol y Gymdeithas a’r Swyddogion sy’n cyfrifol am drefnu’r Gymdeithas.

Bwriedir ychwanegu deunydd ychwanegol i’r wefan yn y dyfodol a fydd o ddiddordeb i haneswyr ac ymchwilwyr, gan gynnwys fersiynau digidol o sawl eitem o gyhoeddiadau’r Gymdeithas, a hefyd deunydd newydd sy’n anaddas ar gyfer dulliau cyhoeddi traddodiadol oherwydd maint neu ffurf.

Fe welwch gysylltiadau defnyddiol â chymdeithasau a sefydliadau hanesyddol eraill yng Ngheredigion.