Hanes Ystumtuen

Hanes, archeoleg a hynafiaethau Ystumtuen. Yn bentref hanesyddol yng NgheredigionSir Aberteifi gynt, Gorllewin Cymru. Wedi’i leoli rhwng Capel Bangor a Ponterwyd.

Cynnwys

1. Hanes
2. Mynegai
3. Darluniau
4. Addysg
5. Diwydiant
6. Gweinyddu
7. Iechyd
8. Seafaring
9. Crefydd
10. Map
11. Cysylltiadau

Lluniau Hanes Ystumtuen

Ers 1909 mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi cyhoeddi erthyglau a ysgrifennwyd am archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion, mae llawer o’r erthyglau hyn a argraffwyd yn y Cylchgrawn Ceredigion, yn ymwneud â hanes Ystumtuen.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynhyrchu tair cyfrol sirol, o dan yr enw cyfres Hanes Sir Aberteifi, mae’r cyhoeddiadau gwybodus, dysgedig, cynhwysfawr ac ysgolheigaidd hyn yn cofnodi hanes Sir Gynhanesyddol, gynnar a modern Sir Aberteifi.

1. Hanes

Nid yw hanes cynnar yr ardal hon yn glir. Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai rhwng maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur a maenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir.

Mewn cyfnodau mwy diweddar daeth i feddiant ystad Nanteos. Ym 1690 mae dogfen yn cofnodi bod y ffermydd Pantgwyn Isaf, Pantgwyn Uchaf, Penygarreg, Plwcca Bydr, Penrhiwgam, Tir y Castell a Nantgoredyn i gyd yn eiddo i Nanteos yn Ystumtuen (Griffiths 1988, 5).

Dengys map Lewis Morris o’r ardal ddyddiedig 1744 tua dwsin o ffermydd bach. Mae’n ddiddorol nodi ei fod yn dangos ‘Mountain Hedge’ rhwng y tir amgaeëdig a thir agored. Dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45, 21-23 a 35; Cyf 37, 37, 62) yr ardal yn fanylach na map Lewis Morris.

Mae’r ffermydd yn fach ac yn cynnwys un neu ddau badog neu gae bach o amgylch fferm, wedi’u gosod mewn cae mawr neu dir agored – nid yw’n glir pa un o’r mapiau – ar gyrion ffridd. Nid oes gan rai ffermydd megis Lluestwen unrhyw dir amgaeëdig ac fe’u lleolir o fewn rhostir.

Nododd Lewis Morris fwyngloddiau plwm hefyd yn yr ardal hon; dangosir rhai o’r mwyngloddiau hyn ar y mapiau o’r ystad. Roedd yr ardal hon yn ardal fwyngloddio bwysig, a fu’n weithredol o ddechrau’r 18fed ganrif o leiaf, a chynhwysai fwyngloddiau Ystumtuen, Tynyfron, Penrhiw, Bwlch-gwyn a Llwynteifi (Bick 1983, 21-26).

Erbyn yr arolwg degwm roedd aneddiadau eraill wedi datblygu; roedd rhai o’r aneddiadau hyn ar gyrion tir ymylol ac yn ddiau aneddiadau sgwatwyr oeddynt. Drwy gydol hanner cyntaf y 19eg ganrif parhaodd y boblogaeth i dyfu wrth i’r gweithgarwch cloddio am blwm gynyddu.
Datblygodd pentrefan cnewyllol llac – sef Ystumtuen – yn cynnwys capel, ysgol a nifer o fythynnod gwasgaredig. Er i’r boblogaeth ostwng tua diwedd y 19eg ganrif, roedd 60 o dai cyfannedd ym 1907. Cyflymodd tranc y diwydiant cloddio plwm yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif y mudo o Ystumtuen. Erbyn 1988 roedd 36 o dai cyfannedd, gyda 12 ohonynt yn gartrefi gwyliau (Griffiths 1988, 79).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llain donnog a chreigiog o dir a leolir rhwng dyffryn serth Afon Rheidol i’r de ac i’r dwyrain, a rhostir agored, uchel i’r gogledd. O ran uchder mae’n amrywio o 270m yn nherfynau deheuol yr ardal i bron 400m yn y gogledd.

Dim ond ar hyd ffyrdd cul dros y rhostir uchel i’r gogledd y gellir cyrraedd yr ardal. Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys ffermydd, tai a bythynnod gwasgaredig a chlwstwr llac o adeiladau ym mhentrefan Ystumtuen, wedi’u gosod o fewn clytwaith o gaeau bach, afreolaidd eu siâp (y mae rhai ohonynt yn dir pori wedi’i wella), llethrau a chopaon creigiog agored, pantiau mawnaidd, tomenni ysbwriel a hen adeiladau’r diwydiant cloddio plwm, a chronfeydd dðr bach a adeiladwyd i wasanaethu’r mwyngloddiau. Rhennir y caeau gan gloddiau pridd a cherrig. Erbyn hyn mae gwrychoedd yn brin ar wahân i’r rhai ar y llethrau isaf i’r de ac i’r dwyrain, ond hyd yn oed yma maent yn dechrau tyfu’n wyllt ac yn cael eu hesgeuluso ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Mewn mannau eraill ffensys gwifrau yw’r prif atalfeydd cadw stoc.

Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol a defnyddir llechi (llechi gogledd Cymru) ar gyfer y toeau. Mae’r waliau naill ai wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel ar dai, ac maent bob amser yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Ceir cymysgedd o ddaliadau amaethyddol a thai diwydiannol. Mae’r ffermdai/tai hþn i gyd bron yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol.

Yn achos ffermydd mae hyn yn cynnwys simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae’r tai diwydiannol yn llai o faint. Mae nodweddion brodorol megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy na’r llall i’w cael ar y mwyafrif o’r tai. Fel arfer cyfyngir adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Ceir nifer o dai/byngalos modern yn yr ardal, ac mae rhai o’r tai hþn wedi’u moderneiddio ac wedi’u hymestyn ar raddfa fawr.

Mae olion y diwydiant cloddio plwm i’w gweld ym mhobman. Tomenni ysbwriel yw gwaddol amlycaf y diwydiant, ond mae hen adeiladau cerrig yn elfen amlwg a phwysig yn y dirwedd hanesyddol. Mae adeiladau’r mwyngloddiau yn dechrau dirywio; cloddiwyd rhai tomenni ysbwriel i ddarparu seiliau caled.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn cynnwys olion y diwydiant cloddio metel neu olion aneddiadau anghyfannedd ôl-Ganoloesol a dim byd arall bron.

Mae hon yn ardal dirwedd ar wahân a cheir ffin bendant rhyngddi a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi. I’r de ac i’r dwyrain mae dyffryn coediog iawn Afon Rheidol. Ceir rhostir agored i’r gogledd, a thir mwy ffrwythlon, llai tonnog a llai creigiog i’r gorllewin.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Ystumtuen

Yn ôl i’r brig ↑

2. Map

Gweld Map Mwy o Ystumtuen

Yn ôl i’r brig ↑

3. Cysylltiadau allanol

  • Coflein, darganfyddwch archeoleg, adeiladau hanesyddol, henebion a hanes Ystumtuen, Ceredigion
  • Enwau Lleoedd Hanesyddol, dysgwch am enwau caeau ac enwau tai yng nghymuned Ystumtuen
  • Pint o Hanes, darllenwch am hanes Ceredigion pub’s, inn’s a thafarndai lleol Ystumtuen
  • Casgliad y Werin Cymru, rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Ystumtuen

Yn ôl i’r brig ↑

Rhai syniadau i rannu’ch Straeon isod!

Oes gennych chi gof ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd gyda rhai awgrymiadau a syniadau, dim ond meddwl am y lle hwn a’r pwysigrwydd a gafodd yn eich bywyd a gofyn i chi’ch hun:

  • Beth yw fy atgofion personol o fyw yma?
  • Sut mae wedi datblygu a siopau wedi newid dros y blynyddoedd?
  • Oes gennych chi stori am y traeth, y gymuned, ei bobl a’i hanes?
  • Dywedwch wrthym sut mae’n teimlo, gweld ffotograffau a delweddau o’r lle hwn eto?
  • Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am y lle hwn?

Nod Cymdeithas Hanes Ceredigion yw cadw, cofnodi a hyrwyddo astudiaeth o archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Mae’r amcan hwnnw wedi aros yr un fath ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1909, er bod ei enw wedi’i newid o Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002.

Gweler:
Mynegai | Trefi yng Ngheredigion | Pentrefi yng Ngheredigion | Safleoedd Hanesyddol yng Ngheredigion | Adeiladau Rhestredig Ceredigion | Henebion Rhestredig Ceredigion | Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion | Parciau a Gerddi Ceredigion
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
guest

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x