Hanes Trawsgoed
Hanes, archeoleg a hynafiaethau Trawsgoed. Yn bentref hanesyddol yng Ngheredigion, Sir Aberteifi gynt, Gorllewin Cymru. Wedi’i leoli rhwng Abermagwr a Wenallt.
Cynnwys
1. Hanes
2. Map
3. Cysylltiadau
Lluniau Hanes Trawscoed |
---|
Cynllun y safle Gaer Fawr Trawscoed Cynllun safle Gwersyll yng Nghoed Allt Fedw Trawscoed |
Ers 1909 mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi cyhoeddi erthyglau a ysgrifennwyd am archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion, mae llawer o’r erthyglau hyn a argraffwyd yn y Cylchgrawn Ceredigion, yn ymwneud â hanes Trawsgoed.
Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynhyrchu tair cyfrol sirol, o dan yr enw cyfres Hanes Sir Aberteifi, mae’r cyhoeddiadau gwybodus, dysgedig, cynhwysfawr ac ysgolheigaidd hyn yn cofnodi hanes Sir Gynhanesyddol, gynnar a modern Sir Aberteifi.
1. Hanes
Henebion Cofrestredig yn Nhrawscoed, Ceredigion.
Mae henebion rhestredig (a elwir hefyd yn henebion hynafol rhestredig, neu SAMs) yn safleoedd o bwysigrwydd archeolegol gyda diogelwch cyfreithiol penodol rhag difrod neu ddatblygiad.
- Abermagwr Sawmill
- Castell Grogwynion
- Cefn Blewog Camp
- Coed Allt-Fedw Camp
- Coed Ty’n-y-Cwm Camps
- Gors Defended Enclosure
- Llannerch Pentir Defended Enclosure
- Trawsgoed Roman Fort
Mae’r ardal hon yn cynnwys plasty Trawscoed a’r rhan fwyaf o’r hyn a ffurfiai ddemên Trawscoed. Mae stori’r teulu Vaughan o Drawscoed yn dechrau yn y 14eg ganrif pan briododd merch Ieuan Coch ag Adda Fychan, hynafiad uniongyrchol yr Arglwydd Lisburne presennol (Morgan 1997, 21).
Drwy gydol diwedd y Canol Oesoedd bu’r teulu Vaughan yn gwasanaethu fel mân swyddogion ac asiantiaid i’r Goron, gan grynhoi tir a chyfoeth. Yn ystod yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif trwy briodi’n graff a chyfnewid a phrynu tir yn ofalus ffurfiwyd ystad o gryn faintioli.
Ymestynnwyd yr ystad yn ddramatig ym 1630 pan brynwyd llawer o gyn-faenorau Abaty Ystrad Fflur gan Iarll Essex. Roedd plasty a gerddi ardderchog wedi’u sefydlu yn Nhrawscoed erbyn 1684 o leiaf (Morgan 1997, 162). Ymddengys fod y tþ wedi’i ailadeiladu’n gyfan gwbl erbyn 1756.
Archwiliwyd olion cyn-erddi a ddangosir ar fapiau o’r ystad (LlGC Trawscoed Cyf 1, 4; LlGC Map 7188, LlGC Map 10127) a’u hamlinellu o ffotograffau a dynnwyd o’r awyr a’u disgrifio gan Morgan (1997). Cynhwysir y gerddi ar y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru. Rhan 1: Parciau a Gerddi; sy’n cynnwys disgrifiad llawn.
Yn ogystal â’r gerddi ffurfiol, gosodwyd parcdir a sefydlwyd parc ceirw neu barc palisog. Yn debyg i bob parc o’r maint hwn mae wedi trawsnewid gryn dipyn dros y canrifoedd. Dymchwelwyd hen ffermydd, megis Maesdwyffrwd (LlGC Trawscoed Cyf 1, 40), i wneud lle i’r parc a thirluniwyd tir.
Dengys ffotograff dyddiedig 1888 a gyhoeddwyd gan Morgan (1987, 21) borfa donnog a choed gwasgaredig nodweddiadol parc a grëwyd yn ystod y 18fed ganrif. O fewn yr ardal hon i’r gorllewin o’r parc ceir ffermydd gwasgaredig. Dengys mapiau o’r ystad y ffermydd hyn mewn tirwedd nad yw’n annhebyg i’r un a welir heddiw.
Ym 1947, gwerthwyd Trawscoed i’r llywodraeth, ac addaswyd y plasty yn swyddfeydd ar gyfer y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, a than 1995 hwn oedd pencadlys y Gwasanaeth Ymgynghorol Amaethyddol yng Nghymru, ac roedd hefyd yn rhan o’r Sefydliad Tir Glas ac Ymchwil Amgylcheddol (Morgan 1997, 172). Adeiladwyd blociau labordai ac adeiladau fferm y sefydliadau hyn yn yr hen barc, ac adeiladwyd ystad fach o dai yn Abermagwr.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Lleolir yr ardal hon ar un o gerlannau Afon Ystwyth rhwng 50 a 80m o uchder, ac mae hefyd yn cynnwys bryn crwn wrth ei ffin ogledd-ddwyreiniol, sy’n codi i uchder o 150m.
Mae craidd yr ardal yn cynnwys plasty Trawscoed a’i erddi cysylltiedig. Erbyn hyn mae’r gerddi’n llawer llai nag yr oeddynt gynt, ac mae rhan helaeth iawn o’r parcdir wedi’i throi yn dir pori wedi’i wella. Tri pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd.
Mae sawl clwstwr o goed, coetir llydanddail a phlanhigfeydd o gonifferau, yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd. Ceir hefyd goed aeddfed sydd wedi goroesi o’r parc a’r ardd.
Mae sefydliadau ymchwil y Llywodraeth wedi trawsnewid yr ardal o un a gynhwysai barcdir i un a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol dwys. Ffurfir y ffiniau hþn gan gloddiau ac arnynt wrychoedd – mae’r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da, ond mae angen rheoli llawer – ac erbyn hyn mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt, ac mae’r rhain yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr.
Mae’r aneddiadau yn cynnwys adeiladau’r ystad – y plasty, porthordai ac ati – clwstwr llac o anheddau yn Abermagwr, a ffermydd gwasgaredig. Mae adeiladau rhestredig – sef Plasty Trawscoed, adeiladau fferm fodel, porthordy Celf a Chrefft, pileri gatiau, melin lifio ac ati – yn adlewyrchu dylanwad cryf yr ystad ar draws y dirwedd hon.
Carreg yw’r deunydd adeiladu traddodiadol, sydd yn aml wedi’i gadael yn foel, a llechi ar gyfer toeau. Ar wahân i’r strwythurau rhestredig, mae’r adeiladau naill ai’n dai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, gan gynnwys ffermdai, yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol nodweddiadol, neu’n fodern. Mae gan ffermydd sawl rhes o adeiladau allan o gerrig ac adeiladau amaethyddol modern. Mae rhai adeiladau allan modern wedi’u hadeiladu o bren, sy’n anarferol yn y rhanbarth hwn. Mae adeiladau modern yn elfen amlwg yn y dirwedd, ac maent yn cynnwys tai yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif hyd ei diwedd, swyddfeydd y llywodraeth ac adeiladau amaethyddol mawr iawn o eiddo’r llywodraeth.
Mae’r prif safleoedd archeolegol yn yr ardal hon yn cynnwys caer Rufeinig Trawscoed a’i ficws cysylltiedig, ac adeiladau a gerddi rhestredig plasty Trawscoed. Mae’r gaer gerllaw’r plasty wedi’i haredig yn drwm a dim ond o dan y ddaear y mae olion archeolegol wedi goroesi. Archwiliwyd rhannau bach o’r gaer trwy waith cloddio archeolegol (Davies 1994, 300-302). Mae safleoedd archeolegol eraill yn cynnwys tri ôl cnwd nad yw eu dyddiad yn hysbys a chanfyddiadau yn dyddio o’r Cyfnod Rhufeinig a’r Cyfnod Canoloesol.
Nid oes i’r ardal dirwedd hanesyddol hon ffiniau pendant. Nid yw cymeriad cyffredinol yr ardaloedd i’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain yn annhebyg, ond ni cheir ynddynt yr elfennau sy’n gysylltiedig â’r ystad a geir yn yr ardal hon. I’r de-ddwyrain mae’r ffin ychydig yn gliriach am fod y tir yma yn codi’n sydyn at dir agored.
Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Trawsgoed
2. Map
3. Cysylltiadau allanol
- Coflein, darganfyddwch archeoleg, adeiladau hanesyddol, henebion a hanes Trawsgoed, Ceredigion
- Enwau Lleoedd Hanesyddol, dysgwch am enwau caeau ac enwau tai yng nghymuned Trawsgoed
- Pint o Hanes, darllenwch am hanes Ceredigion pub’s, inn’s a thafarndai lleol Trawsgoed
- Casgliad y Werin Cymru, rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Trawsgoed
Rhai syniadau i rannu’ch Straeon isod!
Oes gennych chi gof ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd gyda rhai awgrymiadau a syniadau, dim ond meddwl am y lle hwn a’r pwysigrwydd a gafodd yn eich bywyd a gofyn i chi’ch hun:
- Beth yw fy atgofion personol o fyw yma?
- Sut mae wedi datblygu a siopau wedi newid dros y blynyddoedd?
- Oes gennych chi stori am y traeth, y gymuned, ei bobl a’i hanes?
- Dywedwch wrthym sut mae’n teimlo, gweld ffotograffau a delweddau o’r lle hwn eto?
- Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am y lle hwn?
Nod Cymdeithas Hanes Ceredigion yw cadw, cofnodi a hyrwyddo astudiaeth o archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Mae’r amcan hwnnw wedi aros yr un fath ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1909, er bod ei enw wedi’i newid o Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002.