Hanes Wenallt
Hanes, archeoleg a hynafiaethau Wenallt. Yn bentref hanesyddol yng Ngheredigion, Sir Aberteifi gynt, Gorllewin Cymru. Wedi’i leoli rhwng Trawsgoed a Ystrad Meurig.
Cynnwys
1. Hanes
2. Map
3. Cysylltiadau
Lluniau Hanes Wenallt |
Ers 1909 mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi cyhoeddi erthyglau a ysgrifennwyd am archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion, mae llawer o’r erthyglau hyn a argraffwyd yn y Cylchgrawn Ceredigion, yn ymwneud â hanes Wenallt.
Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynhyrchu tair cyfrol sirol, o dan yr enw cyfres Hanes Sir Aberteifi, mae’r cyhoeddiadau gwybodus, dysgedig, cynhwysfawr ac ysgolheigaidd hyn yn cofnodi hanes Sir Gynhanesyddol, gynnar a modern Sir Aberteifi.
1. Hanes
Nid yw hanes yr ardal hon yn gwbl glir. Mae’n debyg bod y patrwm anheddu yn eithaf hen a’i fod yn bodoli yn yr 16eg ganrif, pan oedd Morris ap Richard yn brysur yn prynu ffermydd a thir i ychwanegu at ystad gychwynnol Trawsgoed.
Yn ddiau erbyn 1756 roedd rhan o’r ardal hon o dan reolaeth gadarn Trawscoed am ei bod yn rhan o’i thiroedd demên (LlGC Map 7188). Mae daliadau eraill wedi’u cofnodi fel rhan o’r ystad erbyn diwedd y 18fed ganrif, ond mae’n debyg iddynt gael eu prynu yn llawer cynharach. Dengys mapiau ystad dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 42, 43, 53, 55; LlGC Gogerddan 54, 55) dirwedd y mae’n hawdd ei hadnabod heddiw, yn cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach, afreolaidd eu siâp, er bod rhai mân newidiadau wedi bod.
Er enghraifft, ym 1781, roedd y tir i’r dwyrain o Blas y Wenallt yn agored ac yn dwyn yr enw ‘Bank’. Roedd wedi’i rannu’n gaeau rheolaidd o faint canolig erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Llanafan 1845). Nid yw’n glir p’un a ddatblygodd y system o gaeau amgaeëdig o system isranedig neu a yw’n cynrychioli patrwm amgáu hynafol.
Yn 1760au caeoedd ystad Trawscoed ei melinau llai o faint a chanolbwyntio cynhyrchiant mewn melin newydd yn Wenallt (Macve 1998, 62). Adeiladwyd capel ym 1787, ac ysgol yn ystod blynyddoedd cyntaf yr 20fed ganrif (Percival 1998, 514).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys cerlan ar lan ogleddol Afon Ystwyth rhwng 70m a 120m, a thir sy’n codi yn ei phen dwyreiniol i 200m.
Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau o faint bach i ganolig. Nid oes unrhyw dir agored, a thir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth i gyd bron. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae gan wrychoedd ambell goeden nodedig. Mae’r mwyafrif o’r gwrychoedd mewn cyflwr da ac maent yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda, er bod rhai yn dechrau cael eu hesgeuluso. Mae gwifrau wedi’u hychwanegu at bob un. Mae ambell goeden a llwyn a blannwyd yn rhoi naws parcdir i rannau o’r dirwedd hon.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a thai gwasgaredig, a datblygiadau llinellol, gwasgaredig ar hyd y briffordd trwy’r ardal hon. Mae’n debyg i’r math olaf hwn o anheddiad gael ei greu gan yr ystad. Yn wir, mae’n debyg i’r mwyafrif o’r adeiladau gael eu hadeiladu gan yr ystad neu fod yr ystad wedi dylanwadu arnynt. Carreg yw’r prif ddeunydd adeiladu traddodiadol – naill ai wedi’i gadael yn foel neu wedi’i rendro â sment – a cheir llechi ar y toeau. Mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Fodd bynnag, un eithriad yw Plas y Wenallt, sef tþ bonedd rhestredig yn yr arddull Sioraidd, a adeiladwyd ar gyfer ystad Trawscoed ar ddiwedd y 18fed ganrif, ond a all fod yn hþn na hynny. Mae porthordy a bwthyn yn ddiweddarach, ond mae’n amlwg iddynt gael eu hadeiladu gan yr ystad. Mae dylanwad yr ystad ar ffermdai a thai eraill yn llai amlwg ac at ei gilydd maent yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd ac maent yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol. Mae adeiladau fferm traddodiadol yn gymharol fawr, a cheir enghreifftiau o nifer o resi wedi’u gosod yn ffurfiol o amgylch iard mewn cynllun ystad nodweddiadol. Mae’r adeiladau amaethyddol modern ar ffermydd gweithredol yn fawr hefyd. Mae grðp bach o dai ystad yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif ac ychydig o dai a byngalos yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae adeiladau eraill yn cynnwys bwa sengl rhestredig Pont Llanafan a chapel yn dyddio o’r 19eg ganrif.
Nid yw archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn amrywiol, ac mae’n cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol: capel, pontydd a melinau.
I’r dwyrain, mae coedwigoedd yn darparu ffin bendant ar gyfer yr ardal hon. Mewn mannau eraill ni fu’n bosibl pennu ffiniau pendant rhwng yr ardal hon a phentref Llanafan i’r gogledd, a rhwng tirwedd parcdir newidiedig Trawscoed i’r gogledd-ddwyrain.
Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Wenallt
2. Map
3. Cysylltiadau allanol
- Coflein, darganfyddwch archeoleg, adeiladau hanesyddol, henebion a hanes Wenallt, Ceredigion
- Enwau Lleoedd Hanesyddol, dysgwch am enwau caeau ac enwau tai yng nghymuned Wenallt
- Pint o Hanes, darllenwch am hanes Ceredigion pub’s, inn’s a thafarndai lleol Wenallt
- Casgliad y Werin Cymru, rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Wenallt
Rhai syniadau i rannu’ch Straeon isod!
Oes gennych chi gof ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd gyda rhai awgrymiadau a syniadau, dim ond meddwl am y lle hwn a’r pwysigrwydd a gafodd yn eich bywyd a gofyn i chi’ch hun:
- Beth yw fy atgofion personol o fyw yma?
- Sut mae wedi datblygu a siopau wedi newid dros y blynyddoedd?
- Oes gennych chi stori am y traeth, y gymuned, ei bobl a’i hanes?
- Dywedwch wrthym sut mae’n teimlo, gweld ffotograffau a delweddau o’r lle hwn eto?
- Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am y lle hwn?
Nod Cymdeithas Hanes Ceredigion yw cadw, cofnodi a hyrwyddo astudiaeth o archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Mae’r amcan hwnnw wedi aros yr un fath ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1909, er bod ei enw wedi’i newid o Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002.