Hanes Pontarfynach

Hanes, archeoleg a hynafiaethau Pontarfynach. Yn bentref hanesyddol yng NgheredigionSir Aberteifi gynt, Gorllewin Cymru. Wedi’i leoli rhwng Aber-ffrwd a Ysbyty Cynfyn.

Cynnwys
1. Hanes
2. Map
3. Cysylltiadau

Pontarfynach, Ceredigion, Gorllewin Cymru – pentref bach hanesyddol yn hen sir Sir Aberteifi

Lluniau Hanes Pontarfynach
Cynllun y safle Castell Bwa Drain
Cynllun y safle Castell Bwa Drain

Ers 1909 mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi cyhoeddi erthyglau a ysgrifennwyd am archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion, mae llawer o’r erthyglau hyn a argraffwyd yn y Cylchgrawn Ceredigion, yn ymwneud â hanes Pontarfynach.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynhyrchu tair cyfrol sirol, o dan yr enw cyfres Hanes Sir Aberteifi, mae’r cyhoeddiadau gwybodus, dysgedig, cynhwysfawr ac ysgolheigaidd hyn yn cofnodi hanes Sir Gynhanesyddol, gynnar a modern Sir Aberteifi.

1. Hanes Lleol Pontarfynach

Henebion Cofrestredig yn Pontarfynach, Ceredigion..
Mae henebion rhestredig (a elwir hefyd yn henebion hynafol rhestredig, neu SAMs) yn safleoedd o bwysigrwydd archeolegol gyda diogelwch cyfreithiol penodol rhag difrod neu ddatblygiad.

  • Bwlch-yr-Oerfa Settlement
  • Copa Hill/Cwmystwyth Lead, Copper and Zinc Mines
  • Fron Ddu Round Barrow
  • Fron Goch Lead Mine
  • Hafod: Cavern Cascade
  • Hafod: Chain Bridge and Gothick Arcade
  • Hafod: Nant Bwlch-Gwallter
  • Hafod: Peiran Cascade
  • Nant Yspryd Glan Deserted Rural Settlement
  • Pen y Garn Cairn

Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal dirwedd fach ond cymhleth hon o fewn Maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Ysbyty Ystrad Fflur. Roedd y faenor, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf, wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu. Lleolid fferm o’r fath – Rhos-tyddyn – yn yr ardal hon (Morgan 1991).

Pan ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg i’r fferm hon ynghyd â rhai eraill yn y faenor ddod i feddiant y teulu Herbert, ac yn y diwedd daeth yn rhan o ystad Thomas Johnes, sef yr Hafod. Er bod aneddiadau megis Fferm Rhos-tyddyn yn bodoli, mae’n debyg y byddai’r ardal hon wedi cynnwys tir ymylol ynghyd â choetir ar y llethrau mwy serth yn y Cyfnod Canoloesol, ac am ganrifoedd ar ôl hynny.

Fodd bynnag, mae’n gorwedd ar lwybr pwysig o’r gogledd i’r de, ac yn cynnwys y man croesi dros Afon Mynach – sef Pontarfynach. Mae’n bosibl bod rhan gynharach y bont sydd wedi goroesi yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd y llwybr ym 1770 pan ddaeth Pontarfynach yn gyffordd i ddwy ffordd dyrpeg. O’r gorllewin rhedai ffordd dyrpeg i fyny o Aberystwyth, drosodd i Gwmystwyth ac yn y pen draw i Lundain. O Bontarfynach rhedai ail ffordd dyrpeg tua’r gogledd i’r Amwythig (Lewis 1955, 41-45; Colyer, 1984, 176-182).

Roedd ymweliad â rhaeadrau Afon Mynach yn rhan hanfodol o daith unrhyw ymwelydd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif; sicrhaodd presenoldeb y ffyrdd tyrpeg fod yr atyniadau hyn yn anodd i’w colli.

Adeiladodd Thomas Johnes dafarn i wasanaethu’r diwydiant ymwelwyr, ac ailadeiladwyd yr adeilad sydd i’w weld heddiw – sef Gwesty’r Hafod Arms – yn ddiweddarach yn arddull ‘Bwthyn Swistirol’ gan Ddug Newcastle (Walker 1998, 304), un o berchenogion diweddarach ystad yr Hafod.

Cofnodir gardd yr Hafod Arms ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru. Mae’r nifer enfawr o baentiadau, lluniau ac engrafiadau, wedi’u cyhoeddi a heb eu cyhoeddi, yn tystio i boblogrwydd y rhaeadrau yn y cyfnod hwn.

Datblygodd ychydig o dai a bythynnod gerllaw’r gwesty, rhai ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant cloddio plwm efallai, ond fel y tystia’r map degwm roedd yr anheddiad yn y 1840au yn dal i fod yn fach iawn.

Adeiladwyd Rheilffordd Cwm Rheidol, a agorodd ym 1902, â’i therfynfa ddwyreiniol ym Mhontarfynach, i wasanaethu’r diwydiant cloddio plwm, ond datblygodd yn llwybr ymwelwyr yn gyflym. Bu’r rheilffordd a’r twf parhaus yn y diwydiant ymwelwyr yn fodd i Bontarfynach ddatblygu’n bentref bach yn cynnwys siopau, ysgol ac ystadau tai ar raddfa fach. Ar wahân i’r rheilffordd, cynhwysai diwydiannau yn yr ardal waith toddi plwm, a gaeodd ym 1834 (Bick 1983, 30), a chynllun hydrodrydanol bach yn dyddio o hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys teras llethrog ar uchder o 200m – 250m ar ochr ddeheuol Afon Rheidol a’r rhan honno o lethrau Afonydd Rheidol a Mynach sy’n cynnwys rhaeadrau Afon Mynach.
Mae pentref Pontarfynach, a leolir ar y teras llethrog, yn anheddiad gwasgarog sydd wedi’i ganoli ar adeilad trawiadol rhestredig Gwesty’r Hafod Arms a phont restredig ‘Devil’s Bridge’ ei hun.

Mae’r mwyafrif o’r tai hyn yn y pentref yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o garreg wedi’i rendro â sment neu wedi’i gadael yn foel. Mae gan y tai hyn ddau lawr ac maent yn arddull frodorol Sioraidd y rhanbarth– sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan rai ohonynt elfennau Sioraidd cryf yn hytrach na nodweddion brodorol.

Mae adeiladau hyn eraill yn cynnwys capeli yn dyddio o’r 19eg ganrif, adeilad unllawr gorsaf rheilffordd Pontarfynach sydd wedi’i adeiladu o haearn rhychog a nifer o adeiladau ‘dros dro’ megis swyddfeydd tocynnau a chaffis a adeiladwyd i wasanaethu diwydiant ymwelwyr canol yr 20fed ganrif. Maent yn elfennau nodedig ac anarferol yn y dirwedd. Adeiladwyd tai a byngalos modern o fewn y pentref ac ar ei gyrion.

Adeiladwyd y pentref dros dir a arferai fod yn amgaeëdig, er ei fod o ansawdd gwael. Mae cloddiau ffin rhai o’r caeau hyn i’w gweld mewn ardaloedd nas datblygwyd. Mae rhai ffiniau min ffordd, yn arbennig gerllaw Gwesty’r Hafod Arms, yn cynnwys waliau wedi’u plastro â morter neu waliau sych. Islaw’r bont restredig ceir cyfres gymhleth o lwybrau a lonydd yn arwain at wahanol wylfannau ar gyfer y rhaeadrau. Er nad ydynt wedi’u harchwilio’n fanwl, mae’n bosibl bod rhai o’r llwybrau hyn yn dyddio o ddiwedd y 18fed neu ddechrau’r 19eg ganrif.

Ar wahân i’r bont enwog, y gall ei strwythur sy’n goroesi ddyddio o’r Cyfnod Canoloesol, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau sy’n sefyll neu olion diwydiannol.

I’r de mae’r ardal hon yn cwrdd â thir agored ac i’r dwyrain anheddiad sgwatwyr Rhos-y-gell. I’r gogledd ac i’r dwyrain ceir llethrau coediog serth dyffrynnoedd Rheidol a Mynach.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Pontarfynach

Yn ôl i’r brig ↑

Ardal ucheldir Ty’n-Y-Castell, i’r gogledd, i’r gorllewin o Pontarfynach

Yn debyg i’r ardaloedd tirwedd oddi amgylch ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon, ond erbyn y 18fed ganrif roedd ym meddiant ystad Nanteos. Mae map o’r ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 31), sy’n dangos Ty’n-y-castell a Faen Grach, yn darlunio tirwedd o gaeau bach lle y ceir rhywfaint o gymysgu o ran y tir. Mae’r darn olaf hwn o dystiolaeth yn ddiddorol ac mae’n awgrymu i’r dirwedd ddatblygu o bosibl o system o gaeau isranedig neu agored; system yr oedd y broses o’i chyfuno a’i hamgáu yn tynnu at ei therfyn ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ar wahân i gyfuno tiroedd cymysg, nid yw’r dirwedd hon wedi newid rhyw lawer ers yr arolwg ar gyfer y map o’r ystad.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal dirwedd fach hon mewn pant cysgodol ar ymyl llwyfandir ar uchder o tua 250m uwchlaw dyffryn Afon Rheidol. Fe’i nodweddir gan system o gaeau bach, afreolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella a rennir gan gloddiau a gwrychoedd. Yn wahanol i ardaloedd tirwedd cyfagos mae’r gwrychoedd yn yr ardal hon yn gyfan, ac er eu bod wedi tyfu’n wyllt, gallant gadw stoc o hyd pan ychwanegir ffensys gwifrau atynt. Mae’r gwrychoedd, ynghyd ag ambell goeden wrych a chlystyrau bach o goetir collddail, yn rhoi golwg goediog i’r dirwedd sy’n cyferbynnu ag ardaloedd i’r de.

Nodweddir y patrwm anheddu gan grðp eithaf dwys o ffermydd a thai eraill. Cerrig wedi’u rendro â sment a thoeau llechi yw’r deunyddiau adeiladu traddodiadol. Mae’r mwyafrif o’r tai yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae rhai tai wedi’u moderneiddio a’u hymestyn ar raddfa fawr neu maent wedi’u hailadeiladu. Ceir o leiaf un tþ modern hefyd a bwthyn o haearn (tun) rhychog yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif. Mae gan y ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig ac adeiladau amaethyddol modern bach.

Lleolir chwarel gerrig segur yn yr ardal hon.

Mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol nodedig, ac mae’n wahanol iawn i’r ardaloedd i’r de, lle na cheir unrhyw goed nac unrhyw wrychoedd ar y cyfan. I’r gogledd ceir llethr serth a choediog iawn dyffryn Afon Rheidol.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Ty’n-Y-Castell

Yn ôl i’r brig ↑

Ardal ucheldir Rhydpererinion, i’r gorllewin o Pontarfynach

Yn debyg i ardaloedd cyfagos ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon, ac ychydig a wyddom amdani. Fodd bynnag, yn wahanol i’r ardaloedd sy’n ffinio â hi, nid oedd yn rhan o un o faenorau Abaty Ystrad Fflur. Erbyn y 18fed ganrif roedd wedi’i rhannu rhwng ystadau Trawscoed a Nanteos.

Dengys mapiau ystâd yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45; 30, 31) dirwedd o ffermydd gwasgaredig, pob un â chaeau bach o bob tu iddi, a chaeau mwy o faint a ffridd agored ymhellach allan. Ar wahân i rywfaint o waith a wnaed i isrannu’r caeau mwy o faint ac amgáu rhannau o’r ffridd, nid oedd y patrwm hwn wedi newid fawr ddim erbyn arolwg degwm 1847. Yn raddol yn ystod gweddill y 19eg ganrif trowyd y tir agored yn gaeau.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llwyfandir tonnog sy’n amrywio o ran uchder o 270m i 290m. Mae’r mwyafrif o’r tir yn cynnwys tir pori wedi’i wella bellach, ond ceir pantiau mawnaidd a thir pori mwy garw ar lethrau serth. Mae’r holl dir yn amgaeedig neu mae wedi’i amgáu, ond erbyn hyn mae’r caeau ar y llethrau uwch a’r copaon yn tueddu i gael eu ffermio fel unedau mawr wedi’u hisrannu gan ffensys gwifren. Mae rhai o’r ffensys hyn yn dilyn cwrs hen gloddiau isel. Ar dir is ceir caeau bach, afreolaidd eu siâp wedi’u rhannu gan gloddiau. At ei gilydd mae’r gwrychoedd a geir ar y cloddiau mewn cyflwr gwael, maent wedi tyfu’n wyllt, anaml y maent yn cadw stoc ac mae gwifren wedi’i hychwanegu atynt. Fel rheol, mae cyflwr y gwrychoedd hyn yn gwella wrth nesáu at y ffermdai.

Mae anheddau gwasgaredig, ond sydd wedi’u grwpio’n agosach na’r anheddau yn yr ardal i’r de, yn nodweddu patrwm anheddu’r ardal hon. Ceir clystyrau llac, bach o aneddiadau ym Mynydd Bach a Chapel Trisant.

Mae adeiladau traddodiadol wedi’u hadeiladu o garreg a chanddynt doeau llechi. Mae’r waliau ar dai naill ai wedi’u rendro â sment, mae’r garreg wedi’i gadael yn foel neu mae wedi’i phaentio, ac mae’r garreg wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan ffermydd. Mae’r tai, gan gynnwys y ffermdai, yn fach ac mae bron pob un ohonynt yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben.

Mae nodweddion brodorol megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall yn fwy cyffredin nag elfennau Sioraidd mwy ffurfiol. Mae gan ddau neu dri thþ nodweddion brodorol cryf. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o garreg wedi’u cyfyngu fel arfer i un neu ddwy res fach, ac mae rhai rhesi ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Mae sawl fferm yn segur bellach. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol modern. Ceir capel rhestredig bach yn Nhrisant. Mae ychydig o dai a byngalos modern i’w gweld.

Buwyd yn cloddio am gerrig yn yr ardal hon, ac ar hyd y ffin ddeheuol ceir olion gweithgareddau cloddio am blwm sy’n gysylltiedig â mwynglawdd Frongoch.

Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn amrywiol, ac mae’n cynnwys safleoedd, tai a bythynnod ôl-Ganoloesol a mân olion diwydiannol.

Nid oes i’r ardal dirwedd hanesyddol hon ffiniau arbennig o bendant. Nodweddir ardaloedd i’r de ac i’r gogledd gan batrwm anheddu mwy gwasgaredig a phatrymau o gaeau mwy o faint. Mae Frongoch hefyd yn cynnwys olion cloddio nodedig. I’r dwyrain, mae tir is o ansawdd gwaeth yn cynnwys anheddiad sgwatwyr.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Rhydpererinion

Yn ôl i’r brig ↑

Ardal ucheldir Rhos-Y-Gell, i’r de o Pontarfynach

Yn hanesyddol, gorweddai o leiaf ran ddwyreiniol yr ardal hon, os nad yr ardal gyfan, o fewn maenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Prynodd ystad Trawscoed faenorau Ystrad Fflur ym 1630. Trwy broses gyfnewid, daeth tiroedd y cyn-faenorau yn yr ardal hon yn rhan o ystad yr Hafod ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Sicrhaodd ansawdd gwael iawn y tir yn yr ardal hon iddo aros yn agored tan y cyfnod cymharol fodern. Dengys arolwg degwm 1847 (Llanfihangel-y-Creuddyn) fod yr ardal yn un gyfannedd a gynhwysai ddyrnaid o fythynnod a chaeau bach. Dengys map o ystad yr Hafod dyddiedig 1834 fythynnod ar hyd terfynau dwyreiniol yr ardal hon. Mae Morgan (1997, 213) yn nodi mai aneddiadau sgwatwyr oedd y bythynnod hyn ac nid oes unrhyw reswm dros amau hynny. Mae’n debyg iddynt gael eu hadeiladu ac i’r tir gael ei amgáu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Adeiladwyd ysgoldy yma ym 1852 a chapel ym 1872.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Nodweddir y dyffryn llydan, agored hwn – bwlch gwynt rhwng dyffrynnoedd Afonydd Ystwyth a Rheidol sydd wedi torri’n ddwfn i mewn i’r graig – sy’n gorwedd rhwng 230m a 270m gan batrwm anheddu gwasgaredig a thir pori o ansawdd gwael.

Mae’n ardal ar wahân i’r ardaloedd o dir pori wedi’i wella sydd o’i hamgylch, ac mae’n cynnwys system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp yn cynnwys tir pori garw, pantiau mawnaidd a thir brwynog ac ychydig o leiniau gwasgaredig o dir pori wedi’i wella. Erbyn hyn mae’r system gaeau yn mynd yn ddiangen; erbyn hyn mae bron pob un o’r hen ffiniau caeau a ffurfir gan gloddiau isel wedi’u hesgeuluso. Mae’r gwrychoedd yn tyfu’n wyllt ac yn segur. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn ffurfio’r prif ffiniau cadw stoc, sydd fel arfer yn dilyn ffiniau hanesyddol. Plannwyd coed ffawydd fel atalfeydd gwynt, a cheir planhigfeydd bach o goed coniffer.

Nodweddir y patrwm anheddu gan fythynnod, tyddynnod a ffermydd bach gwasgaredig – 100-200m oddi wrth ei gilydd. Carreg yw’r deunydd adeiladu traddodiadol. Mae’r carreg wedi’i gadael yn foel ar rai o’r ffermdai a rhai adeiladau allan fferm ac fel arfer maent wedi’i rendro â sment ar anheddau llai o faint. Llechi yw’r deunydd toi cyffredinol. Mae’r ffermdai yn fach ac yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef adeiladau deulawr, simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan y mwyafrif nodweddion Sioraidd cryf yn hytrach nag elfennau brodorol.

Mae adeiladau allan y ffermydd hyn yn fach iawn ac maent yn aml ond yn cynnwys un rhes ynghlwm wrth y ty ac yn yr un llinell ag ef. Mae adeiladau amaethyddol modern lle y maent i’w cael yn fach hefyd. Mae bythynnod niferus yr ardal hon yn draddodiadol yn adeiladau unllawr, unllawr a hanner neu deulawr bach yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Estynnwyd a moderneiddiwyd llawer ohonynt, neu fe’u hailadeiladwyd yn ddiweddar. Mae nifer fawr o fythynnod a ffermydd anghyfannedd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bythynnod a thyddynnod anghyfannedd gan mwyaf, ond ceir mwynglawdd metel a melin hefyd, a darperir dyfnder amser i’r dirwedd gan grug crwn posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r gorllewin ac i’r de ceir ardaloedd o ffermydd gwasgaredig wedi’u gosod mewn tir pori wedi’i wella ac olion gweithgarwch cloddio am blwm. Ceir tir agored i’r dwyrain a Phontarfynach i’r gogledd-ddwyrain. Lleolir dyffryn serth, coediog Afon Rheidol i’r gogledd.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Rhos-Y-Gell

Yn ôl i’r brig ↑

2. Map Lleoliad Pontarfynach

Gweld Map Mwy o Pontarfynach

Yn ôl i’r brig ↑

3. Cysylltiadau allanol

  • Coflein, darganfyddwch archeoleg, adeiladau hanesyddol, henebion a hanes Pontarfynach, Ceredigion
  • Enwau Lleoedd Hanesyddol, dysgwch am enwau caeau ac enwau tai yng nghymuned Pontarfynach
  • Pint o Hanes, darllenwch am hanes Ceredigion pub’s, inn’s a thafarndai lleol Pontarfynach
  • Casgliad y Werin Cymru, rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Pontarfynach

Yn ôl i’r brig ↑

Rhai syniadau i rannu’ch Straeon isod!

Oes gennych chi gof ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd gyda rhai awgrymiadau a syniadau, dim ond meddwl am y lle hwn a’r pwysigrwydd a gafodd yn eich bywyd a gofyn i chi’ch hun:

  • Beth yw fy atgofion personol o fyw yma?
  • Sut mae wedi datblygu a siopau wedi newid dros y blynyddoedd?
  • Oes gennych chi stori am y traeth, y gymuned, ei bobl a’i hanes?
  • Dywedwch wrthym sut mae’n teimlo, gweld ffotograffau a delweddau o’r lle hwn eto?
  • Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am y lle hwn?

Nod Cymdeithas Hanes Ceredigion yw cadw, cofnodi a hyrwyddo astudiaeth o archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Mae’r amcan hwnnw wedi aros yr un fath ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1909, er bod ei enw wedi’i newid o Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002.

Gweler:
Mynegai | Trefi yng Ngheredigion | Pentrefi yng Ngheredigion | Safleoedd Hanesyddol yng Ngheredigion | Adeiladau Rhestredig Ceredigion | Henebion Rhestredig Ceredigion | Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion | Parciau a Gerddi Ceredigion
0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
guest

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x