Hanes Ysbyty Cynfyn

Hanes, archeoleg a hynafiaethau Ysbyty Cynfyn. Yn bentref hanesyddol yng NgheredigionSir Aberteifi gynt, Gorllewin Cymru. Wedi’i leoli rhwng Pontarfynach a Ponterwyd.

Cynnwys

1. Hanes
2. Map
3. Cysylltiadau

Lluniau Hanes Ysbyty Cynfyn

Ers 1909 mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi cyhoeddi erthyglau a ysgrifennwyd am archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion, mae llawer o’r erthyglau hyn a argraffwyd yn y Cylchgrawn Ceredigion, yn ymwneud â hanes Ysbyty Cynfyn.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynhyrchu tair cyfrol sirol, o dan yr enw cyfres Hanes Sir Aberteifi, mae’r cyhoeddiadau gwybodus, dysgedig, cynhwysfawr ac ysgolheigaidd hyn yn cofnodi hanes Sir Gynhanesyddol, gynnar a modern Sir Aberteifi.

1. Hanes

Mae hanes cynnar yr ardal hon yn aneglur. Yn wahanol i lawer o’r tir oddi amgylch ni fu’n un o faenorau Abaty Ystrad Fflur.
Mae’n debyg bod y patrwm o ffermydd gwasgaredig yn dyddio o’r Cyfnod Canoloesol o leiaf. Daeth y rhan fwyaf o’r ardal i feddiant ystad Nanteos, a dengys mapiau o’r ystad yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif (LlGC Cyf 45, 24-28) y dirwedd fel y mae heddiw fwy neu lai, a cheir ffermydd gwasgaredig, caeau bach afreolaidd eu siâp a chaeau mwy o faint ar dir uwch. Gadawyd rhai aneddiadau, ac mae fferm i’r dwyrain o Dþ Mawr bellach wedi mynd, ac yn Erwbarfe dangosir daliadau gwasgaredig yn gymysg â’i gilydd; sy’n nodi efallai bod yr ardal yn arfer cynnwys system o gaeau isranedig y datblygodd y dirwedd fodern ohoni.

Roedd yr eglwys fach yn Ysbyty Cynfyn yn gapel anwes ac efallai ei fod yn eiddo i Farchogion Sant Ioan, neu efallai ei fod yn gysylltiedig ag Abaty Ystrad Fflur. Ailadeiladwyd yr eglwys ym 1827 ar safle’r adeilad Canoloesol (Ludlow 1998).

Mae safle’r eglwys o ddiddordeb: mae’n ddigon posibl bod nifer o feini hirion sydd wedi’u hadeiladu i mewn i wal y fynwent yn dyddio o’r cyfnod cynhanes, er bod Briggs (1979) wedi herio’r awgrym hwn. Roedd ymweliad â’r eglwys a rhaeadrau ‘Parson’s Bridge’ i’r dwyrain mewn ardal gyfagos yn eitem hanfodol ar deithlyfr twristiaid a oedd yn ymweld â gogledd Ceredigion ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y 19eg ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn gorwedd ar gerlan ar lan ddwyreiniol Afon Rheidol rhwng 220m – 300m. Er ei bod yn cynnwys tir gwastad gan mwyaf, ceir bryn creigiog gerllaw Eglwys Ysbyty Cynfyn.
I’r gorllewin mae’r tir yn disgyn yn gyflym i mewn i gwm Afon Rheidol, ac i’r dwyrain mae’r tir yn codi’n serth. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf, er bod pocedi o dir mwy garw mewn pantiau. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp, a rhennir y caeau hyn gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ar wahân i’r rhai sy’n rhedeg ar hyd ffyrdd, sydd mewn cyflwr da, mae’r mwyafrif o’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt ac maent yn dechrau cael eu hesgeuluso, ac mae gwifrau wedi’u hychwanegu at bob un.

Gerllaw’r eglwys rhennir y caeau gan waliau sych. Mae’r waliau hyn mewn cyflwr gweddol dda. Ceir clystyrau bach o goetir llydanddail. Lleolir yr ardal ar lwybr pwysig o’r gogledd i’r de, ffordd bresennol y B4343. Er nad oes amheuaeth nad yw’n ffordd hen iawn, fe’i newidiwyd yn ffordd dyrpeg ym 1770 (Lewis 1955, 43-45).

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig. Mae adeiladau traddodiadol wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt doeau llechi. Mae’r ffermdai hþn yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan o leiaf un tþ nodweddion gothig yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae llawer o dai wedi’u moderneiddio ac wedi’u hymestyn ar raddfa fawr neu maent wedi’u disodli gan dai newydd. Mae adeiladau fferm wedi’u hadeiladu o gerrig yn cynnwys dwy i dair rhes fach ac mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern bach. Lleolir eglwys Ysbyty Cynfyn a pharc carafannau bach yn yr ardal hon.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol yn bennaf. Mae’r ffaith bod nifer o safleoedd anghyfannedd i’w cael yn yr ardal yn arwydd o dirwedd â phoblogaeth fwy niferus yn y gorffennol hanesyddol. Mae olion gweithgarwch cloddio am fetel i’w gweld hefyd. Mae canfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd a maen hir yn dyddio o’r Oes Efydd yn Eglwys Ysbyty Cynfyn yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r gorllewin ac i’r de, lle y mae’n ffinio â choetir ar lethr serth cwm Rheidol a thir agored uchel, ac i’r dwyrain lle y mae’n cwrdd â thir agored neu gaeau mawr yn codi’n serth at rostir uchel. I’r gogledd nid yw’r ffin mor bendant lle y mae’r ardal hon yn ymdoddi i dir agored o amgylch Ponterwyd.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol sbyty Cynfyn

Yn ôl i’r brig ↑

2. Map

Gweld Map Mwy o Ysbyty Cynfyn

Yn ôl i’r brig ↑

3. Cysylltiadau allanol

  • Coflein, darganfyddwch archeoleg, adeiladau hanesyddol, henebion a hanes Ysbyty Cynfyn, Ceredigion
  • Enwau Lleoedd Hanesyddol, dysgwch am enwau caeau ac enwau tai yng nghymuned Ysbyty Cynfyn
  • Pint o Hanes, darllenwch am hanes Ceredigion pub’s, inn’s a thafarndai lleol Ysbyty Cynfyn
  • Casgliad y Werin Cymru, rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Ysbyty Cynfyn

Yn ôl i’r brig ↑

Rhai syniadau i rannu’ch Straeon isod!

Oes gennych chi gof ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd gyda rhai awgrymiadau a syniadau, dim ond meddwl am y lle hwn a’r pwysigrwydd a gafodd yn eich bywyd a gofyn i chi’ch hun:

  • Beth yw fy atgofion personol o fyw yma?
  • Sut mae wedi datblygu a siopau wedi newid dros y blynyddoedd?
  • Oes gennych chi stori am y traeth, y gymuned, ei bobl a’i hanes?
  • Dywedwch wrthym sut mae’n teimlo, gweld ffotograffau a delweddau o’r lle hwn eto?
  • Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am y lle hwn?

Nod Cymdeithas Hanes Ceredigion yw cadw, cofnodi a hyrwyddo astudiaeth o archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Mae’r amcan hwnnw wedi aros yr un fath ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1909, er bod ei enw wedi’i newid o Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002.

Gweler:
Mynegai | Trefi yng Ngheredigion | Pentrefi yng Ngheredigion | Safleoedd Hanesyddol yng Ngheredigion | Adeiladau Rhestredig Ceredigion | Henebion Rhestredig Ceredigion | Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion | Parciau a Gerddi Ceredigion