Hanes Aber-ffrwd

Hanes, archeoleg a hynafiaethau Aber-ffrwd. Yn bentref hanesyddol yng NgheredigionSir Aberteifi gynt, Gorllewin Cymru. Wedi’i leoli rhwng Capel Seion a Pontarfynach.

Cynnwys

1. Hanes
2. Map
3. Cysylltiadau

Lluniau Hanes Aber-ffrwyd
Cynllun y safle Castell Bwa Drain
Cynllun y safle Castell Bwa Drain

Ers 1909 mae Cymdeithas Hanes Ceredigion wedi cyhoeddi erthyglau a ysgrifennwyd am archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion, mae llawer o’r erthyglau hyn a argraffwyd yn y Cylchgrawn Ceredigion, yn ymwneud â hanes Aber-ffrwyd.

Mae’r gymdeithas hefyd wedi cynhyrchu tair cyfrol sirol, o dan yr enw cyfres Hanes Sir Aberteifi, mae’r cyhoeddiadau gwybodus, dysgedig, cynhwysfawr ac ysgolheigaidd hyn yn cofnodi hanes Sir Gynhanesyddol, gynnar a modern Sir Aberteifi.

1. Hanes

Ardal ucheldir Tanyffordd, i’r de-orllewin o Aberffrwd.

Fel gydag ardaloedd cyfagos, nid ymchwiliwyd i hanes cynnar yr ardal hon, ond erbyn y 18fed ganrif roedd yn rhan o ystad Nanteos.

Dengys mapiau a luniwyd yn 1819 (LlGC Cyf 45; 19, 32, 33, 40) dirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau bach afreolaidd eu siâp wrth ymyl ffermdai, caeau mwy o faint ymhellach draw ac ychydig o dir agored. Erbyn arolwg y degwm roedd rhai o’r caeau bach iawn wedi’u huno ac roedd y caeau mwy o faint wedi’u his-rannu, gan arwain at dirwedd sy’n debyg iawn i’r dirwedd heddiw. Ers yr arolwg degwm ffurfiwyd anheddiad bach cnewyllol yn Pisgah.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal fach ymdonnog hon yn amrywio o 180m i 240m o uchder ac mae’n cynnwys tir pori wedi’i wella yn bennaf gyda choetir o goed collddail ar lethrau serth. Caeau bach afreolaidd eu siâp sy’n nodweddu’r patrwm caeau, ac mae gwrthgloddiau gyda gwrychoedd yn rhannu’r caeau. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da neu weddol dda yn gyffredinol, ond ar dir uwch maent mewn cyflwr gwael ac mae rhai wedi cael eu disodli gan wifren.

Mae ffordd yr A4120 yn rhedeg drwy’r ardal; arferai fod yn ffordd dyrpeg a hon oedd y brif ffordd i’r dwyrain o ogledd Ceredigion cyn i ffordd dyrpeg newydd gael ei hadeiladu – ffordd bresennol yr A44 – yn 1829.

O ran y patrwm anheddu mae ffermydd gwasgaredig gydag anheddiad hirfain bach yn Pisgah. Mae tai traddodiadol wedi’u hadeiladu o gerrig, sydd naill ai wedi’u gadael yn eu cyflwr gwreiddiol, wedi’u paentio neu wedi’u rendro â sment, gyda thoeau llechi. Mae’r tai hyˆ n yn fach, â deulawr gan mwyaf, er bod o leiaf un bwthyn unllawr, ac maent yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19fed ganrif. Maent yn yr arddull frodorol Sioraidd draddodiadol- simneiau yn nhalcennau’r tyˆ , drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae i’r rhan fwyaf o’r tai nodweddion brodorol cryf yn hytrach nag elfennau Sioraidd mwy cain.

Yn Pisgah mae llawer o’r tai hyˆ n wedi cael eu hestyn a’u moderneiddio, ac mae tai modern wedi cael eu codi yn y bylchau rhwng yr anheddau hyˆ n. Mae dros hanner yr anheddiad hwn yn dai modern erbyn hyn. Mae’r nifer fach o ffermydd yn yr ardal hon yn cynnwys ychydig o resi o adeiladau allan bach o gerrig, ac adeiladau amaethyddol modern bach.

Nid yw’r archeoleg gofnodedig yn rhoi dyfnder amser i’r diwedd hon ac mae ond yn cynnwys adeiladau safadwy – capel a bwthyn – chwarel ac enw lle.

Mae ffiniau gweddol bendant i’r ardal hon. I’r gorllewin ac i’r dwyrain mae ardaloedd o gaeau mawr a ffensys gwifren yn ffin iddynt bellach. I’r gogledd mae llethr goediog iawn dyffryn Rheidiol ac i’r de mae tir amgaeëdig is Llanfihangel-y-Creuddyn.

Gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed – Nodweddu Tirwedd Hanesyddol Tanyffordd

Yn ôl i’r brig ↑

2. Map

Gweld Map Mwy o Aber-ffrwd

Yn ôl i’r brig ↑

3. Cysylltiadau allanol

  • Coflein, darganfyddwch archeoleg, adeiladau hanesyddol, henebion a hanes Aber-ffrwd, Ceredigion
  • Enwau Lleoedd Hanesyddol, dysgwch am enwau caeau ac enwau tai yng nghymuned Aber-ffrwd
  • Pint o Hanes, darllenwch am hanes Ceredigion pub’s, inn’s a thafarndai lleol Aber-ffrwd
  • Casgliad y Werin Cymru, rhannwch eich straeon, atgofion a ffotograffau o Aber-ffrwd

Yn ôl i’r brig ↑

Rhai syniadau i rannu’ch Straeon isod!

Oes gennych chi gof ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu? Rydym wedi ei gwneud hi’n hawdd gyda rhai awgrymiadau a syniadau, dim ond meddwl am y lle hwn a’r pwysigrwydd a gafodd yn eich bywyd a gofyn i chi’ch hun:

  • Beth yw fy atgofion personol o fyw yma?
  • Sut mae wedi datblygu a siopau wedi newid dros y blynyddoedd?
  • Oes gennych chi stori am y traeth, y gymuned, ei bobl a’i hanes?
  • Dywedwch wrthym sut mae’n teimlo, gweld ffotograffau a delweddau o’r lle hwn eto?
  • Dywedwch wrthym eich hoff atgofion am y lle hwn?

Nod Cymdeithas Hanes Ceredigion yw cadw, cofnodi a hyrwyddo astudiaeth o archeoleg, hynafiaethau a hanes Ceredigion. Mae’r amcan hwnnw wedi aros yr un fath ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1909, er bod ei enw wedi’i newid o Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion i Gymdeithas Hanes Ceredigion yn 2002.

Gweler:
Mynegai | Trefi yng Ngheredigion | Pentrefi yng Ngheredigion | Safleoedd Hanesyddol yng Ngheredigion | Adeiladau Rhestredig Ceredigion | Henebion Rhestredig Ceredigion | Ardaloedd Cadwraeth Ceredigion | Parciau a Gerddi Ceredigion