Safleoedd Coflein yng Ngheredigion
Coflein yw cronfa ddata ar-lein Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (CHCC) – y casgliad cenedlaethol o wybodaeth am amgylchedd hanesyddol Cymru.
Cynnwys:
• Chwilio Coflein
• Mapio Coflein
• Safleoedd Coflein yng Ngheredigion
• Dolenni Allanol
Mae cronfa ddata Coflein yn rhestru miloedd o safleoedd hanesyddol yng Ngheredigion, Sir Aberteifi gynt. Felly os ydych chi’n ymchwilio i hanes eich tŷ, hanes teulu neu os oes gennych ddiddordeb cyffredinol yn hanes Cymru, mae archifau Coflein yn bwynt galw cyntaf i ymchwilwyr.
Chwilio Coflein
Mae Coflein yn cynnwys manylion miloedd ar filoedd o safleoedd archaeolegol, henebion, adeiladau a safleoedd arforol yng Nghymru,ynghyd â mynegai i’r lluniadau, y llawysgrifau a’r ffotograffau sydd yng nghasgliadau archifol CHCC.
Mapio Coflein
Gellir defnyddio mapio Coflein i chwilio safleoedd hanesyddol o ddiddordeb, megis caerau Rhufeinig, cestyll, eglwysi, capeli, adeiladau rhestredig yn y sir i henebion rhestredig a’r Parciau a’r Gerddi yng Ngheredigion.
Darganfod safleoedd Coflein yng Ngheredigion
Chwiliwch Coflein am adeiladau archeolegol, hanesyddol, gweithfeydd diwydiannol a threftadaeth forwrol yng Ngheredigion.
Dolenni Allanol
- Chwilio Coflein: (ar gyfer safleoedd hanesyddol yng Ngheredigion) Y catalog ar-lein o archeoleg, adeiladau, treftadaeth ddiwydiannol a morwrol yng Nghymru.
Ymchwil Categori:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru | Coflein | Llyfrgell Genedlaethol Cymru | Amgueddfa Ceredigion | Archifau Ceredigion | Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed | Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol Cymru | Cymdeithas Hanes Teuluoedd Ceredigion