Geraint H. Jenkins

GERAINT HUW JENKINS FBA, FLSW, (1946-2025), Llywydd diweddar y Gymdeithas

Daeth y newyddion am farwolaeth sydyn Yr Athro Geraint H. Jenkins yn 78 oed ar 7 Ionawr yn sioc enfawr ar ddechrau’r flwyddyn 2025. Bu’n aelod ffyddlon o’r Gymdeithas hon ers blynyddoedd lawer, gan wasanaethu ar y pwyllgor gwaith er 1978. Wedi gweithredu fel golygydd y cylchgrawn ac fel cadeirydd, ef oedd yr olynydd naturiol i’r Athro Ieuan Gwynedd Jones, ein llywydd blaenorol, pan fu yntau farw yn 2018 ar drothwy ei ben-blwydd yn 98 oed. Dros flwyddyn yn ôl, wrth drafod cynnwys teyrngedau yn Ceredigion, dywedodd Geraint wrthyf y byddai’n disgwyl i finnau i ddweud celwydd amdano pan fyddai’n ffarwelio â’r blaned hon. Rwy’n teimlo mod i wedi cael sêl bendith felly i lunio’r deyrnged hon, er nad oes unrhyw angen i droi at gelwyddau, gan fod cymaint y gellid dweud am gyfraniad Geraint i’r Gymdeithas ac i hanes Cymru’n fwy cyffredinol. Yn wir, y drafferth yw crisialu’r cyfan.

Wedi gadael Ysgol Ramadeg Ardwyn, bu Geraint yn astudio Hanes yn Abertawe, lle’r oedd yr adran yn llawn haneswyr yn awyddus i hybu astudiaeth o hanes Cymru. Nid rhyfedd i Geraint gael ei ysbrydoli gan Glanmor Williams i arbenigo ar hanes Cymru yn y cyfnod modern cynnar. Dim ond megis dechrau’r oedd ar ei ddoethuriaeth pan anogwyd ef gan Glanmor Williams i ymgeisio am swydd yn Adran Hanes Cymru Aberystwyth, fel darlithydd cyfrwng Cymraeg. Penodwyd ef i ymuno â’r adran ym 1968 o dan arweiniad Yr Athro W. Ogwen Williams, gyda Beverley a Llinos Smith a Brian Howells eisoes yn aelodau o’r staff. Dros y blynyddoedd fe wnaeth gydweithio hefyd gyda Ieuan Gwynedd Jones, a symudodd o Abertawe i ddod yn bennaeth yr adran, John Davies a Paul O’Leary. Roedd hi’n Adran hynod ddisglair felly a daeth Geraint ei hun yn bennaeth arni ar ôl ei ddyrchafu’n athro. O dan ei arweiniad, dathlwyd pen-blwydd yr Adran yn 60 oed ym 1992 yn yr Hen Goleg, gyda llawer o hel atgofion gan gyn-aelodau’r staff, gan gynnwys Gwyn Alf Williams. Ym 1993, penodwyd Geraint yn Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn dilyn Yr Athro Geraint Gruffydd yn y swydd ac yn arwain prosiectau ar hanes a llenyddiaeth Cymru, gan gynnwys y prosiect ar Iolo Morganwg a oedd o ddiddordeb mawr iddo.

Ymfalchïai Geraint yn y ffaith ei fod yn Gymro, yn Gardi ac yn un o feibion Penparcau. Bu hanes ei sir enedigol yn agos at ei galon a’i ymwneud â’r Gymdeithas hon oedd un o agweddau mwyaf cyson ei yrfa fel hanesydd. Dangosodd Geraint ymroddiad nodedig i waith y Gymdeithas gan wasanaethu ar y pwyllgor gwaith dros gyfnod o 46 mlynedd, gan weithredu fel golygydd y cylchgrawn am ddeuddeg mlynedd ac yn gadeirydd am ddeg mlynedd, rhwng 1998 a 2018, cyn ymgymryd â rôl y llywydd.  Yn ystod ei gyfnod fel cadeirydd, llywiodd y Gymdeithas drwy ddigwyddiadau arwyddocaol, gan gynnwys dathlu ein canmlwyddiant yn 2009 a’r ysgol undydd ar 19 Mehefin 2010 i nodi pen-blwydd y llywydd ar y pryd, Yr Athro Ieuan Gwynedd Jones, yn 90 oed.

Fel aelodau o’r pwyllgor gwaith, daethom i sylweddoli y byddai’r cyfarfodydd o dan arweiniad Geraint yn symud ymlaen heb lawer o oedi pan fyddai Cymru yn chwarae gêm pêl-droed yn hwyrach y noson honno.  Bu’n barod i ddweud ei farn yn ôl yr angen ac i warchod y defnydd o’r Gymraeg yng ngweithgarwch y Gymdeithas. Byddai’n fodlon hefyd i dorchi llewys ac ymroi i helpu’n ymarferol gyda gweithgareddau fel pacio rhifynnau cylchgrawn Ceredigion. Ceisiai hybu talentau haneswyr ifanc drwy’r rhaglen darlithoedd a recriwtio aelodau newydd i’r gymdeithas a’r pwyllgor. Drwy ei anogaeth deuthum innau i ymaelodi, dod yn aelod o’r pwyllgor gwaith a dilyn Geraint fel golygydd Ceredigion pan symudodd yntau ymlaen i swyddogaethau eraill. Er iddo ddweud yn gyson wrthyf, ‘dy fabi di yw Ceredigion’, bu’n barod iawn ei gyngor ac yn hael ei ganmoliaeth pan fyddai’r cynnwys yn plesio.

Ymhlith ei gyfraniadau mwyaf cofiadwy i’r Gymdeithas oedd ei ymdrechion diflino fel golygydd cyfrolau hanes y sir. Bu’n golygu Cyfrol III, Cardiganshire in Modern Times, ar y cyd gyda’r Athro Ieuan Gwynedd Jones, yn ogystal â chyfrannu pennod ar hanes crefydd. Daeth â’i brofiad golygyddol helaeth i’r adwy unwaith eto, wrth gyd-olygu Cyfrol II, Medieval and Early Modern Cardiganshire, a gyhoeddwyd yn 2019. Bu lansiad y gyfrol yn ddigwyddiad llawen yn y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol, gyda darlleniadau o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym gan Eurig Salisbury a chyfraniadau cerddorol gwefreiddiol gan Owen Shiers a’r grŵp y Gaseg Deircoes. Roedd yn rhyddhad mawr i Geraint i fedru ymlacio wedi’r holl ymdrechion a thorri’r deisen neilltuol o hardd a oedd wedi addurno â llun clawr y gyfrol.

Dylid ystyried ei bennod yn y drydedd gyfrol o hanes y sir fel enghraifft dda o ddawn Geraint i greu naratif eglur allan o linynnau gwahanol a chymhleth mewn hanes. Bu’n trin a thrafod profiadau grwpiau crefyddol amrywiol ar adeg pan welwyd datblygiadau cyffrous, gyda’r hen sir Aberteifi yn chwarae rhan arwyddocaol, ac yn lleoliad rhan o’r ‘smotyn du’ bondigrybwyll lle ffynnodd Undodiaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif. Y ddawn hon i ddadansoddi ac egluro’n effeithiol a oedd hefyd ar waith yn rhai o’r yn y cyhoeddiadau hynny o’i eiddo sy’n parhau yn eithriadol ddylanwadol: Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar (1983), The Foundations of Modern Wales: Wales 1642-1780 (1987), a’r Concise History of Wales (2007).  Yn The Foundations of Modern Wales sefydlodd bwysigrwydd y ddeunawfed ganrif, a gyfrifid unwaith yn ganrif a anghofiwyd gan haneswyr, fel y cyfnod a welodd osod seiliau’r Gymru fodern, gyda’r twf mewn llythrennedd a gweithgarwch diwylliannol a diwydiannol, ynghyd â’r cyffro diwygiadol. Datblygodd ei arddull ddigamsyniol ei hun wrth lunio’r cyfrolau hyn, gyda’r pwyslais bob amser ar gyfathrebu gwybodaeth am y gorffennol yn eglur ac mewn modd a fyddai’n cynnal diddordeb y darllenwyr.

Trafododd nifer o’r themâu hyn ymhellach mewn casgliad sylweddol iawn o gyfrolau, erthyglau a phenodau, gyda nifer ohonynt yn dwyn sylw at gyfraniad y Cardis i ddiwylliant a chymdeithas Cymru.  Pan neilltuwyd cyfrol o’r gyfres Studies in Church History, a gynhyrchwyd gan yr Ecclesiastical History Society, yn 2004 i drafod y thema ‘The Church and the Book’, nid rhyfedd i’r testun apelio at Geraint. Cyfrannodd erthygl gyda’r teitl, ‘“I will tell you a word or two about Cardiganshire”: Welsh Clerics and Literature in the Eighteenth Century’. Llwyddodd y gwaith i ennill cynulleidfa fwy eang i’r canfyddiadau yn ei gyfrol Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion (1990), lle bu’n olrhain bywyd a gwaith nifer o awduron a chrefyddwyr dylanwadol o’r ail ganrif a’r bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys  trafod bywiogrwydd crefyddol a llenyddol Dyffryn Teifi. Dros y blynyddoedd, cyhoeddodd erthyglau hefyd yn Ceredigion, gan gynnwys ar Lewis Morris (‘The Fat Man of Cardiganshire’) yn 2002.  Bu’n gyfrifol hefyd am yr erthygl swmpus ‘Our Founding Fathers and Mothers: The Cardiganshire Antiquarians’, yn cofnodi hanes y gymdeithas ar achlysur y canmlwyddiant yn 2009. Nodweddiadol iawn o’i agwedd oedd y ffaith iddo fynnu cynnwys y menywod yn y teitl. Traddododd yr erthygl yn gyntaf fel darlith ar achlysur dathlu’r canmlwyddiant, gan gyfleu’r wybodaeth yn ei ffordd ddifyr a bywiog arferol, a’r gynulleidfa wrth ei bodd yn clywed y straeon ffraeth am George Eyre Evans, prif sylfaenydd y Gymdeithas. Fel gyda’i waith cyhoeddedig, roedd y pwyslais wrth ddarlithio hefyd ar ennyn diddordeb a chyfathrebu’n effeithiol. Defnyddiai hiwmor yn gyson er mwyn denu’r gwrandawyr gan ddod â’r hanes yn fwy iddynt. Roedd hynny’n bwysig iawn iddo fel un a gredai’n ffyddiog mai hanes oedd cof cenedl. Dewis pwrpasol iawn ganddo oedd y teitl Cadw Tŷ mewn Cwmwl Tystion, ac yntau’n edmygydd mawr o’r bardd Waldo, ac felly’n defnyddio’r  diffiniad hwn o wladgarwch wrth amlygu hanes nifer o’r rheini a gyfrannodd yn helaeth at gynnal hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar.

Roedd y gynulleidfa niferus yn ei angladd ar 1 Chwefror 2025, llawer ohonynt yn aelodau’r Gymdeithas, yn arwydd o’r parch a deimlid tuag ato nid yn unig fel hanesydd ond fel un a wnaeth gyfraniad eang i’w gymuned leol. Braint oedd cael cydweithio ag ef. Fe fyddwn yn anochel yn cofio amdano wrth ailgydio yn ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a thu hwnt i hynny. Estynnwn ein cydymdeimlad diffuant fel Cymdeithas tuag at y teulu cyfan yn eu colled.

Eryn M. White

Llywydd y Gymdeithas