Castell ger Goginan
Mae Castell, ger Goginan, ychydig dros y gyfuchlin 700 troedfedd ar Banc y Castell, ac yn edrych dros Ddyffryn Melindwr. Mae’r ddaear yn cwympo i bob cyfeiriad, ond yn bennaf tuag at y de a’r gorllewin. Mae’r amddiffynfeydd wedi’u difrodi mor wael fel ei bod yn amhosibl gwneud cynllun o’r gwrthglawdd gwreiddiol. Mae’r olion yn awgrymu mai gwersyll cyfuchlin bach ydoedd gyda dau dwmpath isel ar y vallum dwyreiniol.