Plas Alltyrodyn, Rhydowen, Llandysul – 2019 Taith Flynyddol
*Digwyddiad wedi’i Ganslo*
Cymdeithas Hanes Ceredigion
TAITH FLYNYDDOL
Dydd Sadwrn, 18 Mai 2019, 2.00 y.p.
Plas Alltyrodyn, Rhydowen
Tŷ gwledig Sioraidd rhestredig Gradd II* ger Llandysul a adeiladwyd yn y 1820au yn arddull John Nash. ‘A Lloyd family estate from the C17th, the largest in South Cardiganshire in the mid-C19th’ (Pevsner). Byddwn yn ymweld â’r tŷ, y gerddi a’r stablau (gyda’r arysgrif anno mundi) yn westeion i’r perchnogion newydd, Mr Rhys a Mrs Helena Kiff, sydd wrthi’n adnewyddu’r tŷ.
Siaradwyr:
Helena Kiff (adfer Alltyrodyn), Richard Suggett (pensaernïaeth), Caroline Palmer (gerddi), Tim Palmer (daeareg), ynghyd â nodiadau hanesyddol gan Gerald Morgan
Cyfarfod yn Alltyrodyn am 2yp. Byddwn yn teithio i’r lleoliadau mewn ceir preifat.
Ger B4459, Rhydowen, Ceredigion, SA44 4PP (côd post agosaf) / Cyfeirnod grid: SN 4498 4423
CYFYNGIR NIFEROEDD I 40 – COFIWCH GOFRESTRU YMLAEN LLAW
Disgrifiad Pensaernïol
Manylion Safle Coflein: ALLT-YR-ODYN