Logo Cymdeithas Hanes Ceredigion
Lansiodd Sian Bowyer, ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Ceredigion, y logo newydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2019, a gynhaliwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Diolchodd Sian i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatáu i’r gymdeithas ddefnyddio’r breichiau o fewn y dyluniad newydd.
Mae’r faner newydd yn cynnwys y logo ynghyd â delweddau o daith i Benrhyn-coch, a delwedd o Abaty Ystrad Fflur a darlun hanesyddol o Gastell Aberteifi.
Gyda’r URLau newydd yn y gwaelod:
hanesceredigion.cymru
ceredigionhistory.wales