Adroddiad Blynyddol 2007

Cychwynnodd y flwyddyn i’r Gymdeithas ar 28 Ebrill gyda’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac yn dilyn y cyfarfod cafwyd darlith gan Dr Iwan Rhys Morris ar y pwnc ‘Cynnydd i’r Cardi: Cymdeithasau Gwyddonol Ceredigion yn Oes Fictoria’. Aethpwyd y tu allan i Aberystwyth ar gyfer lleoliad y ddarlith nesaf, sef darlith yn Saesneg gan Julian Orbach yn dwyn y teitl, ‘The Architecture of Ceredigion’, a gynhaliwyd yn Festri Capel y Tabernacl Aberaeron, ar nos Fawrth, 29 Mai. Gwaetha’r modd, ni chafwyd y daith flynyddol, ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar 23 Mehefm, gan nad oedd digon o bobl wedi mynegi diddordeb mewn ymuno yn y daith honno. Ken Murphy o ‘Cambrian Archaeology’ oedd y darlithydd yn y cyfarfod ar 6 Hydref, a chafwyd cyflwyniad ganddo ar y pwnc ‘Recent work on prehistoric and Roman settlement in south Ceredigion’. Darlith Gymraeg gan Dr Owen Roberts, gyda’r teitl pryfoclyd, ‘Biarritz Cymru? Aberystwyth a threfi glan-mor Cymru yn eu cyd-destun’, oedd yr arlwy ar 10 Tachwedd, a darlith diwedd y flwyddyn oedd un yn Saesneg gan Mr Simon Timberlake ar’Ancient mines of Ceredigion’.

Cynhaliwyd dau gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y flwyddyn, yn ogystal a’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Ebrill.

0 0 votes
Article Rating
Subscribe
Notify of
guest

0 Comments
Inline Feedbacks
View all comments
0
Would love your thoughts, please comment.x
()
x