Gwersyll yn Coed Allt Fedw, Trawscoed
Mae Gwersyll yn Coed Allt Fedw, Trawscoed, yn gae crwn bach ar y gyfuchlin 600 troedfedd gyda gwrthglawdd cilgantig ar dir isaf i’r dwyrain ohono. Mae’r amddiffynfa wedi’i thynnu ar draws crib gul ac mae’n wynebu tir uwch. Mae’n sefyll mewn man lle mae llethrau’r dyffryn yn dod yn llawer mwy serth ac ohono gellir cael golygfa o’r dyffryn islaw. Nid yw Gaer Fawr ond milltir i ffwrdd i’r S.W. ar draws dyffryn serth.