Adroddiad Flynyddol 2008
Cychwynnodd gweithgareddau’r Gymdeithas ar 19 Ebrill gyda’r Cyfarfod Cyfredinol Blynyddol, ynghyd â darlith ddifyr gan yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd ar ‘Dafydd ap Gwilym and his Patrons in Ceredigion’. ‘Ceredigion y Beirdd’ oedd testun darlith yr Athro Hywel Teifi Edwards ar 24 Mai, a thraethodd yn afaelgar am y beirdd a’r cerddi a gafodd ddylanwad arno ar hyd ei fywyd.
Aeth y daith flynyddol ar 21 Mehefin ag aelodau a chyfeillion y Gymdeithas o amgylch adeilad adnewyddedig Tŷ Newydd, Dinefwr. Gwelwyd safle honedig dwy dref ganoloesol a chaer Rufeinig a ddarganfuwyd yn ddiweddar ym Mharc Dinefwr. Bu’r grŵp hefyd yn ffodus iawn i elwa ar wybodaeth helaeth a ffraethineb yr Athro Emeritws Prys Morgan, wrth eu tywys o amgylch adfeilion y castell.
Gan fod y Comisiwn Brenhinol yn dathlu canmlwyddiant ei sefydlu yn ystod y flwyddyn, gwahoddwyd Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd y Comisiwn yng Nghymru, i gyflwyno darlith ar ‘Records, Research and Relevance: The Royal Commission 100 Years On’ ar 4 Hydref yn y Drwm yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cynhaliwyd y ddarlith nesaf ar 8 Tachwedd yng Nghapel y Tabernacl, Aberaeron, pan gafwyd sgwrs hunangofiannol yn dwyn y teitl ‘O Langrannog i Gaerlŷr. Awr gyda J. Geraint Jenkins’. Traddododd yr Athro Ralph A. Griffiths ddarlith olaf y flwyddyn, ar 6 Rhagfyr, ar ‘Town and Countryside in Cardiganshire towards the end of the Middle Ages’.
Cynhaliwyd dau gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â’r Cyfarfod Blynyddol ym mis Ebrill.